EasyManua.ls Logo

Datamars AirStick - Page 14

Datamars AirStick
72 pages
Print Icon
To Next Page IconTo Next Page
To Next Page IconTo Next Page
To Previous Page IconTo Previous Page
To Previous Page IconTo Previous Page
Loading...
14
Cyn cychwyn
Mae’r canllaw hwn yn rhoi cyfarwyddiadau sylfaenol ar gyfer
defnyddio eich AirSck.
Ceir gwybodaeth gyfredol am weithrediadau, dogfennaeth
dechnegol a meddalwedd AirStick S-ID ar y wefan: www.
datamars.com/id-readers.
Argymhellwn ichi ddefnyddio meddalwedd S-ID (sydd yn y cof
bach USB). Bydd hyn yn caniatáu i chi reoli eich data, cael fersiynau
newydd o’r gadarnwedd neu newid y gosodiadau diofyn.
Efallai y bydd angen i chi ffurfweddu eich AirStick cyn ei
defnyddio am y tro cyntaf.
Sylwer: Sicrhewch fod y batri wedi’i wefru’n llawn cyn
defnyddio’r ddyfais am y tro cyntaf. Bydd hyn yn sicrhau oes
hirach i’ch batris.
Geirfa
EID: Electronic IDentier – rhif adnabod trydanol.
VID: Visual IDentier – Cod alffaniwmerig y gellir ei gysylltu ag EID ar y
darllenydd AirStick neu gyda’r feddalwedd S-ID.*
Cofnod: Cod alffaniwmerig y gellir ei gysylltu ag EID i nodi cywr penodol
yr anifail (grwpio, beichiogrwydd, brechiadau...).*
Chwyddwydr: Mae hwn yn dangos yr wybodaeth sydd bwysicaf i chi (EID,
VID neu cofnod) mewn ffont mwy.
Sesiwn darlleniadau: Ffeil cof sy’n cadw gwybodaeth y darlleniad bob tro y
darllenir EID. Yr enw diofyn ar sesiwn yw: RS dd-mm-yy.csv.*
Cownter: Dangos sawl EID sydd wedi’i storio yn y sesiwn presennol.
* Gweithrediadau y gellir eu haddasu gyda’r feddalwedd S-ID

Related product manuals